Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Ebrill 2019
Amser: 09.00 - 10.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5290
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg Neil Welch, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Neil Welch.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu'r wybodaeth bellach a gafwyd gan y deisebwyr a gofyn am ei hymateb i'r cynigion, gan gynnwys y cynnig am Gynllun Diogelwch Dŵr i Gymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am fanylion polisi a chamau gweithredu cyfredol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru mewn perthynas â chanfod anhwylderau calon ymhlith pobl ifanc nad ydynt eto wedi cael diagnosis.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip er mwyn:
· rhannu sylwadau'r deisebydd, a gofyn am eglurhad ynghylch y cyfeiriad yn y safonau dylunio at beidio â rhoi cyfleusterau newid cewynnau mewn toiledau ar gyfer 'y ddwy ryw';
· gofyn pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o'r strategaethau toiledau lleol a gynhyrchir gan awdurdodau lleol;
· gofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau â'r sector preifat, neu â chyrff cynrychioliadol, ynghylch darparu cyfleusterau newid cewynnau mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd; a
· gofyn am wybodaeth am gamau gweithredu perthnasol a gymerwyd yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2012, Goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i rannu manylion y ddeiseb mewn perthynas â'u hymchwiliad cyfredol i gyllid ysgolion, a chytunodd i gadw golwg ar ymchwiliad y Pwyllgor hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chytunodd i dderbyn eu cynnig i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ymhen chwe mis.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar ddatblygiadau yng Nghymru a ledled y DU. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y posibilrwydd o roi trwydded y Goron yn unol â darpariaethau a wneir yn Neddf Patentau 1977 i wneud defnydd posibl o'r patent ar gyfer Orkambi heb awdurdodiad y deiliad y patent, os na ellir goresgyn y maen tramgwydd yn y trafodaethau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddi ystyried ychwanegu at ganllawiau sy'n cyd-fynd â grantiau chwarae yn y dyfodol i sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol lleol yn cael budd digonol o gyllid o'r fath.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gadw golwg ar y mater hwn yng ngoleuni'r gwaith craffu parhaus y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei wneud yn sgil ei adroddiad Cadernid Meddwl a bodolaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogion ar y Cyd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru i ailagor Ffordd y Goedwig yng ngwanwyn 2020.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ymhen chwe mis.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:
· gofyn am restr o aelodaeth y gweithgor a chadarnhad o'i deitl a'i gylch gorchwyl terfynol;
· cynnig y dylai aelodaeth y grŵp gynnwys cynrychiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a/neu wyddonydd/gwyddonwyr annibynnol; a
· gofyn am ragor o wybodaeth am y rhyngweithio rhwng y gwaith hwn a'r Gweithgor Iechyd ar Amaethyddiaeth Ddwys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-803 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-829, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-750 a P-05-803, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriadau perthnasol a gynhelir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd, cyn ystyried a ddylai gymryd camau pellach ar y deisebau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd, er ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â thrigolion Llangenni yn y mater hwn, y byddai'n cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos yn bosibl gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â gwasanaethau band eang yn Llangenni ar hyn o bryd.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i: